BBC Cymru Fyw

Dirwy i'r Scarlets am gynnwys Jacob Cowley mewn carfan

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionMae Jacob Cowley yn fab i gyn ganolwr Seland Newydd, Regan King

Mae'r Scarlets wedi cael dirwy o 10,000 Ewro (£7,780) wedi'i ohirio am gynnwys chwaraewr anghymwys yn eu carfan i herio Racing 92 ym mis Ionawr.

Er na ddaeth Jacob Cowley, sy'n fab i'r canolwr Regan King, i'r maes yn ystod y gêm, nid oedd ganddo'r hawl i fod ar y fainc gan nad oedd y clwb wedi'i gofrestru.

Cafodd y Scarlets y gosb gan bwyllgor disgyblu Cwpan Rygbi Pencampwyr Ewrop am "gŵyn camweinyddu".

Fe wnaeth y Scarlets gyfaddef cynnwys y chwaraewr "mewn camgymeriad".

Bydd rhaid i'r rhanbarth dalu'r ddirwy os ydyn nhw'n torri unrhyw reolau pellach hyd at fis Mai 2018.

Chwaraeodd Cowley yn yr un tîm a'i dad i'r Scarlets ym mis Hydref y llynedd.