Lagŵn Abertawe: 'Llywodraeth yn cefnogi'

  • Cyhoeddwyd
lagwn

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am gynllun i greu lagŵn llanw gwerth £1bn ym Mae Abertawe yn dal i gredu bod ganddyn nhw gefnogaeth Llywodraeth y DU.

Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Tidal Lagoon Power bod y cwmni wedi derbyn llythyr gan weinidog ar yr un diwrnod a ddaeth cyhoeddiad y byddai adolygiad annibynnol o lagwnau llanw.

Dywedodd y prif weithredwr Mark Shorrock y byddai cost yn cael ei dalu dros 90 o flynyddoedd yn hytrach na 35.

Nid oedd Llywodraeth y DU am wneud sylw.

'Wrth ein boddau'

Y lagŵn yn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech o amgylch arfordir Prydain, a'r gred yw y gallai hyd at 8% o drydan y DU ddod o'r ffynhonnell. Mae'r cwmni yn gobeithio datblygu tri safle arall yng Nghymru.

Yn gynharach, dywedodd cadeirydd Tidal Lagoon Power ei fod yn croesawu'r adolygiad.

Dywedodd Mr Shorrock bod gan y cwmni achos "gymhellol" a'i fod yn credu y bydd yr adolygiad yn dangos bod ynni llanw yn gwneud synnwyr i'r DU.

Ar y diwrnod cafodd yr adolygiad ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, cafodd Mr Shorrock lythyr gan yr Ysgrifennydd Ynni Amber Rudd, yn dangos bod Llywodraeth y DU yn barod i ystyried cyllid hir dymor ar gyfer y cynllun, a lagwnau eraill.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lgoon Power

Dywedodd ei fod wedi rhoi llawer o wybodaeth i'r llywodraeth, ac y byddai hynny'n cael ei asesu'n annibynnol.

"Rydym ni wrth ein boddau gyda'r adolygiad oherwydd bydd yn dangos bod ynni rhad i'w gael o'n ffynonellau yma - y llanw yn yr Hafren a Bae Lerpwl," meddai.

Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.

Gwell dealltwriaeth

Mae oedi wedi bod yn y gwaith adeiladu yn barod wrth i drafodaethau am faint o arian cyhoeddus fyddai ei angen i barhau.

Roedd y cwmni hefyd wedi galw am benderfyniad terfynol ar bris yr ynni fydd yn cael ei gynhyrchu erbyn diwedd mis nesaf.

Yn dilyn yr adolygiad, ni fydd atebion terfynol tan o leiaf ddiwedd 2016.

Dywedodd y Gweinidog Ynni, yr Arglwydd Bourne, y byddai'r adolygiad yn sicrhau eglurder.

"Rydw i eisiau deall yn well os all lagwnau llanw greu gwerth am arian, a beth fydd eu heffaith ar filiau - heddiw ac yn y tymor hir," meddai.