Treviso 19-17 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Cory Hill i roi gobaith i'r Dreigiau, ond doedden nhw methu cipio'r fuddugoliaeth
Mae'r Dreigiau wedi colli i Treviso wrth i'r Eidalwyr sicrhau ail fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn gwrthwynebwyr o Gymru.
Yn dilyn eu buddugoliaeth dros y Gleision, aeth Treviso ar y blaen drwy gais cynnar Angelo Esposito.
Sgoriodd Hallam Amos i ddod a'r Dreigiau yn gyfartal, cyn i geisiau gan Filo Paulo a Ludovico Nitoglia roi Treviso ar y blaen o 19-10.
Aeth Cory Hill dros y linell i roi gobaith i'r Dreigiau, ond methodd Angus O'Brien gyda'i ymgais hwyr am gol adlam.
Mae'r Dreigiau yn aros yn y 10fed safle yn y Pro12, a dyw'r fuddugoliaeth ddim yn ddigon i symud Treviso oddi ar waelod y tabl.