Noson Gwobrau'r Selar 2016 yn Aberystwyth
- Published
Bydd noson o wobrwyo cerddorion a sêr y llwyfan canu boblogaidd yng Nghymru yn cael ei chynnal yn Aberystwyth nos Sadwrn.
Nod Gwobrau'r Selar yw dathlu llwyddiannau'r bandiau ac artistiaid cerddorol cyfoes sydd wedi bod yn weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf.
Eleni am y tro cyntaf bydd rhestrau hir ar gyfer pob categori.
Maen nhw'n gwobrwyo recordiau sydd wedi eu rhyddhau a'u cyhoeddi yn 2015 yn unig.
Yn cyflwyno'r noson bydd y troellwr a'r cynhyrchydd, Dyl Mei, o Benrhyndeudraeth.
Hefyd yn perfformio ar y noson bydd Sŵnami, Band Pres Llareggub, HMS Morris, Terfysg, Aled Rheon a Calgari.
Bydd enillwyr y 12 categori'n cael eu gwobrwyo yn y noson fawr yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Rhestrau fer Gwobrau'r Selar 2016 yn llawn:
Cân Orau: Foxtrot Oscar - Band Pres Llareggub, Trwmgwsg - Sŵnami, Aberystwyth yn y Glaw - Ysgol Sul
Hyrwyddwr Gorau: Maes B, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Noson 4 a 6
Cyflwynydd Gorau: Huw Stephens, Lisa Gwilym, Dyl Mei
Artist Unigol Gorau: Gwenno, Yws Gwynedd, Welsh Whisperer
Band Newydd Gorau: Terfysg, Cpt Smith, Band Pres Llareggub
Digwyddiad Byw Gorau: Tafwyl, Maes B, Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula - Frân Wen
Offerynnwr Gorau: Gwilym Rhys, Guto Howells, Owain Roberts
Gwaith Celf Gorau: Dulog - Brigyn, Sŵnami - Sŵnami, Mae'r Angerdd Yma'n Troi'n Gas - Breichiau Hir
Band Gorau: Candelas, Band Pres Llareggub, Sŵnami
Record Hir Orau: Tir a Golau - Plu, Sŵnami - Sŵnami, Mwng - Band Pres Llareggub
Record Fer Orau: Nôl ac Ymlaen - Calfari, Dy Anadl Di / Pan Ddaw Yfory - Yws Gwynedd, Bradwr - Band Pres Llareggub
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Ble'r Aeth yr Haul - Yr Ods, Sebona Fi - Yws Gwynedd, Pan Ddaw'r Dydd - Saron