Caerdydd 4-1 Brighton
- Cyhoeddwyd

Mae buddugoliaeth dros Brighton wedi rhoi hwb i obeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle.
Fe sgoriodd yr Adar Gleision dair gôl yn yr hanner awr cyntaf gyda Peter Whittingham, Anthony Pilkington a Lex Immers yn rhwydo i'r tîm cartref.
Dale Stephens gafodd unig gôl Brighton wedi'r hanner cyn i gic gosb gan Whittingham selio'r fuddugoliaeth i Gaerdydd.
Mae'r Adar Gleision wedi codi i'r seithfed safle ac mae Brighton yn parhau yn drydydd.