Exeter 1-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd peniad hwyr gan Scott Boden yn ddigon i Gasnewydd gipio pwynt allweddol i ffwrdd yn Exeter.
Fe darodd Conor Wilkinson y postyn ddwy waith i'r ymwelwyr cyn i Jordan Tillson roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond gyda phum munud yn weddill, fe wnaeth Boden hi'n gyfartal drwy sgorio'i 12fed gôl o'r tymor.
Mae Exeter yn parhau yn 13eg yn y tabl, tra bod Casnewydd saith pwynt yn glir o'r ddau isaf.