£1m gan Gyngor Powys i wella ysgolion y sir
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy na £1m yn cael ei wario ar ysgolion Powys dros y flwyddyn nesa, wedi i gabinet y cyngor gymeradwyo'r gwariant.
Bydd Ysgol Gynradd Llanidloes yn elwa gyda £150,000 yn cael ei wario ar faes pacio i fysus.
Mae disgwyl i Ysgol Gynradd Penygloddfa yn y Drenewydd hefyd fod ar ei hennill gyda chegin newydd gwerth £125,000 yn cael ei gosod yno.
Bydd Ysgol Gynradd Crug Hywel yn cael boiler newydd ar gost o £66,000.
Mae 30 o brosiectau am elwa o'r arian yn 2016/17.