Gleision Caerdydd 13-14 Leinster
- Cyhoeddwyd

Mae Leinster wedi mynd i frig tabl y Pro12 ar ôl buddugoliaeth yn erbyn y Gleision.
Roedd y gwynt cryf yn ei gwneud yn anodd i'r ddau dîm, cyn i Isa Nacewa sgorio cais i'r ymwelwyr yn yr ail hanner.
Fe groesodd Josh Navidi dros y tîm cartref a dyma cic Rhys Patchell yn rhoi'r Gleision o fewn pwynt i'w gwneud hi'n gyfartal.
Er y pwysau gan y Gleison, Leinster oedd yn fuddugol.