Welling 0-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Connor Jennings
Mae buddugoliaeth i Wrecsam yn Welling wedi rhoi'r Dreigiau o fewn trwch blewyn i'r gemau ail gyfle.
Lee Fowler a Connor Jennings sgoriodd y goliau i'r ymwelwyr yn yr hanner cyntaf.
Roedd Wrecsam yn parhau i bwyso yn yr ail hanner gyda Kayden Jackson yn taro'r postyn.
Mae'r Dreigiau yn chweched yn y tabl, dau bwynt y tu ôl i Gateshead a Tranmere.