Dynion oedd ar goll yn y Bannau wedi'u darganfod
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod dau ddyn oedd ar goll ar y bryniau ym Mannau Brycheiniog wedi eu darganfod.
Roedd timau arbenigol yn chwilio am y dynion, yn eu 40au, ger ardal Dan-yr-Ogof a'r Mynydd Du.
Cafodd y ddau eu gweld ddiwethaf tua 17:30 ddydd Sadwrn.
Mae'r dynion wedi mynd i'r ysbyty, ond dydyn nhw ddim mewn cyflwr difrifol.