Refferendwm: Dadlau dros ddyfodol y Deyrnas Unedig

  • Cyhoeddwyd
Undeb
Disgrifiad o’r llun,
Liz Binley a Eluned Parrott yn trafod dyfodol y Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd

Mae ymgyrchwyr o blaid gadael ac aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi mynd benben ynghylch y dewis gorau i bobl yng Nghymru.

Yn ôl prif weithredwr 'Leave.EU', Liz Binley, byddai'r gost ddyddiol o aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r undeb, £55m meddai, yn gallu cael ei wario ar ysgolion ac ysbytai.

Ond dywedodd Eluned Parrrot ar ran 'Prydain yn Gryfach yn Ewrop' bod cyflenwad bwyd yn rhatach i'r wlad drwy aros mewn.

Mae David Cameron wedi cyhoeddi mai 23 Mehefin fydd dyddiad y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd.

Allan o 11 o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig, mae tri yn dymuno gadael yr undeb, tra bod 25 o AS Llafur Cymru eisiau aros mewn.

Yn dadlau ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Binley y byddai'r Deyrnas Unedig yn rhydd i drafod cytundebau masnach tu allan yr undeb.

Ychwanegodd bod aelodaeth y DU o Nato a'i pherthynas gyda'r Unol Daleithiau yn gwarantu diogelwch y wlad.

Ond yn ôl Ms Parrott rydym yn elwa o fod yn rhan o farchnad sengl fwyaf y byd.

Dywedodd hefyd bod yr UE wedi golygu heddwch am dros 60 mlynedd.

'Dinistrio'

Yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno, dywedodd dirprwy arweinydd y blaid y byddai'r wlad yn aros o fewn yr undeb.

Ond rhybuddiodd Tom Watson na fyddai ennill y bleidlais yn hawdd.

"Fe all y Torïaid ddinistrio eu hunain dros Ewrop, ond wnawn ni ddim gadael iddyn nhw ddinistrio'r wlad," meddai.

Dywedodd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, y byddai'n "ymgyrchu'n galed" i'r Deyrnas Unedig adael yr undeb.