BBC Cymru Fyw

Lluniau: Gwobrau'r Selar 2016

Published

Cafodd noson wobrwyo flynyddol cylchgrawn Y Selar ei chynnal yn Aberystwyth nos Sadwrn 20 Chwefror. Trwy garedigrwydd Y Selar dyma i chi rai o'r uchfafbwyntiau mewn lluniau:

image captionDavid R Edwards lleisydd Datblygu - enillwyr cyntaf gwobr 'Cyfraniad Arbennig' Gwobrau'r Selar
image captionAled Rheon, un o artistiaid prosiect Gorwelion, fu'n perfformio ar y noson
image captionHuw Stephens yn gwenu o glust gan ei fod o'n rhannu'r wobr am y Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau gyda Lisa Gwilym
image captionRogue Jones ar y llwyfan
image captionTerfysg, un o glwstwr o fandiau addawol o Ynys Môn
image captionCpt Smith, y band pync o sir Gâr
image captionSŵnami o Ddolgellau, enillwyr mawr y noson. Roedd 'na bedair gwobr iddyn nhw gan gynnwys y Band Gorau a'r Gân Orau
image captionYr Artist Unigol Gorau, Yws Gwynedd. Enillodd wobr y Fideo Gorau hefyd am 'Sebona Fi'
image captionHMS Morris, un arall o artistiaid Gorwelion fu'n perfformio yn Undeb y Myfyrwyr

HMS Morris, un arall o artistaid Gorwelion fu'n perfformio yn Undeb y Myfyrwyr

image captionCalfari o Ynys Môn enillodd y wobr am y record fer orau 'Nôl ac Ymlaen'
image captionRoedd y gwynt efo Band Pres Llareggub yn y categori Band Newydd Gorau
image captionNoson i'w chofio i'r dorf yn Aberystwyth. Welwn ni chi eto yn 2017!

Uchafbwyntiau ar raglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru, nos Fercher, 24 Chwefror, 19:00.