BBC Cymru Fyw

Ailagor rheilffordd Dyffryn Conwy yn dilyn llifogydd

Published
image copyrightNetwork Rail

Mae rheilffordd Dyffryn Conwy wedi ailagor ddydd Llun wedi i waith adfer yn dilyn llifogydd ym mis Rhagfyr gael ei gwblhau wythnos yn gynt na'r disgwyl.

Bu'r llwybr ar gau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi i ddŵr gyrraedd lefel y platfform

Wedi'r llifogydd, dywedodd Network Rail y bu'n rhaid cynnal gwaith adfer mewn 100 lleoliad gwahanol.

Mae gwasanaethau wedi ailddechrau ar amserlen ostyngol ddydd Llun.

image copyrightNetwork Rail