Refferendwm Ewrop: Ar ba ochr mae Aelodau Cymreig?
- Cyhoeddwyd

Wedi i'r Prif Weinidog David Cameron amlinellu ymhellach pam ei fod o blaid aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae pedwar o ASau Ceidwadol o Gymru ymhlith nifer cynyddol sydd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n ymgyrchu dros adael.
Yn y Senedd yn San Steffan ddydd Llun, rhybuddiodd Mr Cameron y gallai gadael yr UE "frifo'r bobl sy'n gweithio am flynyddoedd i ddod." Ychwanegodd ei fod yn ddewis rhwng "Prydain hyd yn oed yn well" trwy aros yn rhan o'r Undeb, neu'n "naid i'r tywyllwch" wrth adael.
Ond mae dros 100 o ASau ei blaid yn anghytuno, gan gynnwys yr ASau Cymreig, David Jones, Chris Davies, David Davies a James Davies.
Yn ôl AS Dyffryn Clwyd, Dr James Davies, mae'n "amser symud 'mlaen".
"Y gwir yw bod yr UE i raddau helaeth yn brosiect gwleidyddol ac mae Prydain wastad wedi bod yn bartner anfodlon ohono," meddai ar ei dudalen Facebook.
Dywedodd ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd, ac y bydd ei bleidlais yn "cario dim mwy o bwysau na phleidlais unrhyw berson arall."
Fe gyhoeddodd David Cameron y refferendwm ar gyfer 23 Mehefin ar ôl dod i delerau ar gytundeb ym Mrwsel sy'n rhoi hawl i'r DU i gyfyngu ar fudd daliadau ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd.
Tra bo'r Prif Weinidog yn ymgyrchu i aros yn yr UE, mae gan ASau Ceidwadol yr hawl i bleidleisio fel y mynnan nhw.
'Dim ateb hawdd'
O'r 11 o ASau Ceidwadol Cymreig, mae chwech wedi cyhoeddi eu bod o blaid aros - Stephen Crabb, Guto Bebb, Byron Davies, Simon Hart, Craig Williams ac Alun Cairns. Dyw'r AS Glyn Davies ddim wedi cyhoeddi ei benderfyniad eto.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, y byddai aros o fewn yr Undeb yn "iawn" ar gyfer busnesau Cymru, a bod "y mwyafrif o bobl sy'n creu swyddi yng Nghymru'n cefnogi Prydain a Chymru'n aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd."
Er nad oes "unrhyw ateb hawdd a pherffaith", dywedodd Mr Crabb fod cytundeb David Cameron ar newid telerau aelodaeth Prydain o'r UE wedi "ennill y ddadl".
Aelod arall blaenllaw o'r Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi dweud ei fod yn cefnogi'r ymgyrch i adael yr UE yw arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies.
Dywedodd: "Ar ôl cryn dipyn o ystyriaeth rwyf wedi penderfynu y bydda' i'n pleidleisio dros adael yr UE. Rwy'n credu y bydd ein dyfodol yn fwy disglair fel rhan o berthynas economaidd fwy rhydd gyda'r Undeb Ewropeaidd."
Mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud eu bod yn bwriadu ymgyrchu i gadw'r DU yn yr Undeb Ewropeaidd.
Yn gynharach rhybuddiodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, fod yna ormod o bwyslais ar ddadleuon negyddol.
Meddai: "Mae'n codi pryderon di-sail ac yn chwarae ar ddadleuon ymrannol yr ymgyrch NA. Mae'r math yma o honiadau heb brawf yn cymylu'r ddadl ac mae angen brwydro'n ôl gyda neges gadarnhaol."