Hamilton: 'Ymgyrch filain yn fy erbyn'
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyn Aelod Seneddol Ceidwadol, Neil Hamilton, wedi disgrifio ymgyrch yn erbyn ei gais i sefyll fel ymgeisydd UKIP ar gyfer y Cynulliad fel "canser y mae angen ei drin".
Dywed UKIP eu bod wedi lansio ymchwiliad ar ôl i bamffledi dienw yn beirniadu Mr Hamilton gael eu hanfon at aelodau'r blaid.
Mae'r pamffled yn ei ddisgrifio fel "ymgeisydd parasiwt" ac mae hefyd yn cynnwys yr hyn mae Mr Hamilton yn ei ddisgrifio fel honiadau "enllibus" am ei orffennol.
Mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gan Piers Wauchope, un o uwch swyddogion UKIP, yn dweud ei bod yn bosib y bydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr heddlu.
Yn yr e-bost mae yna gyfraniad gan Neil Hamilton, sy'n dweud fod UKIP Cymru wedi "dirywio" yn ystod y broses o ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.
"Rwy'n gwybod y bydd y mwyafrif helaeth ohonoch wedi cael eich synnu gan natur filain yr ymosodiad personol yma.
"Os gwelwch yn dda, helpwch fi i drin y canser yma a throi UKIP Cymru yn blaid rymus fydd yn dominyddu gwleidyddiaeth Cymru."
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Dywedodd Mr Hamilton wrth BBC Cymru ei fod wedi ei ddewis fel ymgeisydd i sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Fe fydd hefyd yn ceisio am le ar restr yr ymgeiswyr sy'n ceisio am sedd ranbarthol.
Oherwydd natur y drefn cynrychiolaeth gyfrannol - PR- y seddi rhanbarthol sy'n cynnig y cyfle gorau i UKIP ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad.
Mae papurau pleidleisio wedi eu hanfon i aelodau'r blaid er mwyn dewis eu hymgeiswyr rhanbarthol - a Mawrth 4 yw'r diwrnod olaf ar gyfer pleidleisio.
Yn 1994 fe wnaeth papur newydd y Guardian gyhuddo Mr Hamilton o dderbyn arian er mwyn holi cwestiynau yn y Senedd yn San Steffan ar ran Mohamed al-Fayed.
Daeth sawl her gyfreithiol yn sgil hyn.
Mae Mr Hamilton yn gyson wedi gwadu iddo wneud unrhyw beth o'i le.
'Groes i reolau'
Yn yr e-bost i aelodau'r blaid mae Piers Wauchope yn dweud:
"Mae nifer ohonoch chi wedi derbyn pamffled dienw yn y post, yn ymwneud â Neil Hamilton.
"Mae dosbarthu'r pamffledi yn groes i'n rheolau ymgyrchu, a hefyd cawson nhw eu rhannu drwy ddefnyddio cronfa ddata UKIP ac mae hynny'n golygu fod rhywun o fewn y blaid wedi eu hanfon.
"Fe fydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal o fewn y blaid, a phe bai angen fe fydd canlyniad hynny'n cael ei anfon at yr heddlu.
"Mae'n rhaid i'r etholiad yma gael ei chynnal o fewn y rheolau, ac ni allaf ganiatáu i weithredoedd troseddol unigolyn neu fwy nag un unigolyn o fewn y blaid rwystro hynny."
Yn yr e-bost dywed Neil Hamilton: "Mae hwn yn bamffled enllibus sy'n ailgylchu adroddiad o'r Guardian o 1996, sy'n honni'n anghywir fy mod wedi derbyn symiau mawr o arian tra'n Aelod Seneddol am ofyn cwestiynau seneddol.
"Fe wnaeth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ddisgrifio'r honiadau fel celwydd ar ôl i'w cyfrifwyr gorau gynnal ymchwiliad a barodd ddwy flynedd i gyfrifon fy hun a Christine [ei wraig], a hynny yn ymwneud â blynyddoedd treth 1987-97.
"Fe wnaeth y cyfrifwyr hefyd benderfynu fod yr holl dreuliau seneddol yn rhai oedd yn gymwys a chyfreithiol."
"Cafodd y pamffled ei ddosbarthu yn defnyddio rhestr aelodaeth UKIP oedd yn un cyfoes," ychwanegodd Mr Hamilton.
"Mae hynny'n codi cwestiynau am un neu fwy o swyddogion y blaid. Mae o hefyd yn dangos y modd yr ydym fel plaid wedi dirywio yn yr etholiad yma, ac mae angen ad-drefnu ar frys."
Mae BBC Cymru hefyd wedi gweld neges y mae Neil Hamilton wedi anfon at aelodau UKIP cyn i ymgeiswyr gael eu dewis ar gyfer y rhestrau rhanbarthol.
Mae o'n disgrifio ei hun fel "Cymro balch," gan wrthod honiadau ei fod o'n ymgeisydd parasiwt gan ddweud fod hynny'n honiad maleisus.
"Cefais fy newis fisoedd yn ôl gan fwyafrif sylweddol i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
"Rwyf am ddefnyddio fy mhrofiad er mwyn rhyddhau Cymru o grafangau Brwsel a gwneud UKIP Cymru yn rym dynamig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2016