Ysbytai: Unedau brys yn brysur iawn

  • Cyhoeddwyd
A&E

Mae byrddau iechyd wedi annog pobl i beidio mynd i adrannau brys ysbytai os nad oes wir angen oherwydd prysurdeb mewn sawl ysbyty ar draws Cymru.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod pwysau ychwanegol yn golygu bod cleifion yn gorfod treulio cyfnodau "sylweddol" o amser mewn ystafelloedd aros yn ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam.

Mae'r oedi hefyd yn effeithio ar ambiwlansys.

Yn ôl llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau gofal amserol i'n cleifion ond mae hynny'n mynd yn anoddach ar hyn o bryd."

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf hefyd wedi apelio ar bobl i osgoi adrannau brys os yn bosib.

Dywedodd y bwrdd bod yr oedi yn effeithio ar ysbytai Cwm Cynon, Cwm Rhondda, Y Tywysog Charles ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Fe wnaeth llefarydd o Fwrdd Iechyd Cwm Taf annog cleifion i "ddefnyddio gwasanaethau GIG eraill fel eich meddyg teulu, fferyllfa, deintydd, optegydd neu Galw Iechyd Cymru".

Yn Ysbyty Treforys, Abertawe, mae staff yn delio gyda nifer uchel o achosion brys, ac mae llawdriniaethau wedi gorfod cael eu gohirio.

Dywedodd y bwrdd iechyd bod mwy o lawdriniaethau yn debygol o gael eu gohirio ddydd Mawrth hefyd.