BBC: 'Angen cynrychiolaeth o Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Ymddiriedolaeth y BBC

Mae uwch reolwyr y BBC wedi dweud y dylid cael cynrychiolaeth o Gymru fel rhan o drefn reoli a llywodraethiant newydd y gorfforaeth.

Roedd cyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies, a chyfarwyddwr Strategol a digidol y BBC James Purnell, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Mae adroddiad gan bwyllgor arall - Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan - wedi awgrymu na ddylid cael cynrychiolaeth benodol o Gymru.

Dywedodd Mr Purnell ei fod yn "gwbl gywir fod gan y cenhedloedd gynrychiolydd ar y bwrdd unedol".

Ychwanegodd Mr Talfan Davies fod llywodraethwyr ac ymddiriedolwyr ers yr 1950au wedi bod â "record dda" o gyfrannu "llawer iawn" tuag at lywodraethu'r BBC.

Mewn sesiwn ddydd Llun fe ofynodd yr ASau Cymreig i benaethiaid y BBC am y berthynas rhwng y gorfforaeth ac S4C.

Ers 2013 mae'r Sianel yn derbyn y mwyafrif o'i hincwm, sef tua £75m, o ffi drwydded y BBC.

'Rhywbeth gwell'

Dywedodd Mr Talfan Davies fod yna "bryderon dilys" pan gyflwynodd llywodraeth flaenorol y DU y berthynas newydd rhwng y BBC ac S4C. Ond dywedodd fod y ddau gorff darlledu wedi "mynd allan o'u ffordd" i sefydlu "perthynas waith gall".

Ychwanegodd fod y cytundeb newydd gydag S4C wedi dod â "rhywbeth gwell nad oedd wedi'i gyflawni'n flaenorol," a'i fod yn amau a fyddai'r gyfres deledu ddwyieithog lwyddiannus Hinterland wedi'i chreu cyn i'r cytundeb rhwng y BBC ac S4C ddod i fodolaeth.

Wrth ateb cwestiwn am faint mae'r BBC yn ei wario ar rai o'u sêr mwya', dywedodd James Purnell fod cyflogau i rai o'u talentau mwya' wedi "gostwng yn sylweddol". Ond fe wrthododd awgrym y dylid cyhoeddi taliadau i gyflwynwyr gan fod angen i'r BBC gystadlu o fewn marchnad fasnachol.

Fe wnaeth AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts gynnig wrth Rhodri Talfan Davies y gellid sefydlu bwletin teledu yn yr iaith Saesneg yn cwmpasu newyddion o Gymru, y DU a'r Byd, a dywedodd o y byddai'n rhaid ystyried y syniad o safbwynt ei effaith bosib ar gynulleidfaoedd.

Cyfeiriodd at waith ymchwil diweddar gan y BBC, ddaeth i'r casgliad fod cynulleidfaoedd yn dal i'w chael hi'n anodd deall y gwahaniaethau rhwng Cymru a'r DU ers datganoli, gan ddadlau y dylid ystyried newidiadau i wasanaethau presennol ochr yn ochr â chynigion ar gyfer rhaglenni newydd.