Galw heddlu arfog i farina Abertawe
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Kaan Ucele
Fe gafodd heddlu arfog eu galw i Farina Abertawe tua 16:45 ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru nad oedd yna unrhyw berygl i'r cyhoedd ond fe gafodd un dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Fe wnaeth yr heddlu barhau a'u presenoldeb yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i bobl leol am eu diogelwch.
Ffynhonnell y llun, Kaan Ucele