Trafod deiseb i achub derwen hynafol ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sydd yn brwydro i ddiogelu coeden 500 mlwydd oed ym Mhowys yn aros i glywed am dynged y goeden.
Fe wnaeth bron i 5,000 o bobl lofnodi deiseb i achub Derwen Brimmon ar fferm ger y Drenewydd, sydd dan fygythiad o achos ffordd osgoi newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwyro llwybr y ffordd osgoi er mwyn diogelu'r dderwen. Bydd y ddeiseb i achub y goeden yn cael ei thrafod ym mhwyllgor deisebau'r Cynulliad ddydd Mawrth.
Dywedodd un o'r ymgyrchwyr, Rob McBride: "Dydyn ni ddim yn erbyn y ffordd osgoi, rydyn ni am iddyn nhw ei symud i'r ochr ychydig."
Mae Mervyn Jones, sydd yn berchen ar y tir lle mae'r goeden wedi ei lleoli, yn credu y gallai gwreiddiau'r dderwen gael eu heffeithio gan y ffordd osgoi, ac y byddai'n marw os na fydd y ffordd yn cael ei hadeiladu ddigon pell i ffwrdd.