Arian Cyhoeddus: Llywodraeth yn ymchwilio i dri thwyll

  • Cyhoeddwyd
Llywodraeth

Cafodd tri ymchwiliad i dwyll yn ymwneud ag arian cyhoeddus eu dechrau gan Lywodraeth Cymru mewn blwyddyn, yn ôl un o uwch weision sifil y llywodraeth.

Roedd yr ymchwiliadau'n ymwneud â cheisiadau twyllodrus honedig am arian, ac roedd maint yr arian yn "sylweddol", dywedodd Syr Derek Jones wrth iddo roi tystiolaeth i aelodau'r Cynulliad. Ychwanegodd nad oedd angen i'r cyhoedd bryderu.

Dywedodd bod y llywodraeth yn cynnig dros 19,000 o grantiau unigol y flwyddyn, ac mai cam cyntaf pob ymchwiliad oedd cysylltu gyda'r heddlu.

Roedd Syr Derek yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad, sydd yn edrych ar reolaeth grantiau.

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar, am sicrwydd na fyddai achos arall fel AWEMA yn codi eto.

Dywedodd Syr Derek Jones y byddai'n "fyrbwyll" rhoi sicrwydd na fyddai "achos anodd" arall yn codi, ond roedd y risg wedi "lleihau'n sylweddol".

Disgrifiad o’r llun,
Syr Derek Jones

Gohirio taliadau

Ychwanegodd bod tri achos posib o dwyll wedi bod ac roedd taliadau wedi eu gohirio i'r cyrff dan sylw.

Ychwanegodd: "Ni ddylai'r cyhoedd bryderu. Mae hwn (Llywodraeth Cymru) yn sefydliad mawr iawn, iawn. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud 19,000 cynnig am grantiau unigol dros gyfnod o flwyddyn.

"Weithiau bydd pobl yn ceisio camddefnyddio'r drefn a thwyllo'r trethdalwyr. Mae gennym broses dda er mwyn rhwystro hyn rhag digwydd, ond bydd amheuon yn codi o bryd i'w gilydd.

"Wrth fynd yn ôl dros y blynyddoedd rwy'n credu bod ychydig iawn o achosion wedi bod o dwyll sydd wedi ei brofi, felly fe all y cyhoedd gael sicrwydd o hyn a ni ddylie nhw fod yn bryderus."

Dywedodd nad oedd am "ddyfalu ffigwr" am y colledion posib fyddai wedi gallu digwydd yn y tri achos dan sylw.

Mae'r llywodraeth yn gwobrwyo rhwng £500m a £600m y flwyddyn mewn grantiau i'r sector preifat. Mae llai na 1% o'r arian yma'n cael ei golli o achos twyll neu am resymau eraill meddai Syr Derek Jones.

Dywedodd Darren Millar: "Mae pres yn y sector cyhoeddus yn dynn ar hyn o bryd. Bydd unrhyw dwyll sylweddol yn fater o bryder i drethdalwyr."