Tri newid i dîm Cymru i wynebu Ffrainc yn y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi gwneud tri newid i dîm Cymru cyn y gêm yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener.
Mae Bradley Davies yn dechrau yn yr ail reng yn dilyn anaf i ben-glin Luke Charteris.
Yn y rheng ôl, bydd Dan Lydiate yn dechrau yn safle'r blaenasgellwr yn lle Justin Tipuric, wrth i Sam Warburton chwarae fel rhif saith.
Mae Alex Cuthbert yn dechrau ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth hyd yma, a hynny ar yr asgell yn lle Tom James, sydd allan o'r garfan.
'Cyfle da'
Er y pryder am anaf i Jonathan Davies, bydd y canolwr yn dechrau nos Wener wrth ochr Jamie Roberts.
Cafodd y maswr Rhys Priestland anaf wrth chwarae i Gaerfaddon y penwythnos diwethaf, ond mae'n ddigon da i gymryd ei le ar y fainc.
Hefyd ar y fainc mae'r clo Jake Ball, sy'n dychwelyd wedi anaf.
Er mai oherwydd anaf y mae Bradley Davies wedi'i gynnwys, dywedodd Gatland bod y clo yn haeddu ei le a bod hwn yn "gyfle da iddo".
"Rydyn ni wedi gwneud dau newid arall, gydag Alex a Dan yn dod i mewn i'r tîm," meddai.
"Maen nhw wedi hyfforddi yn dda a byddan nhw'n siwtio'r gêm y bydd Ffrainc yn trio ei chwarae hefyd."
Tîm Cymru: Liam Williams (Scarlets); Alex Cuthbert (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), George North (Northampton Saints); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Sam Warburton (Gleision Caerdydd, Capt), Taulupe Faletau (Dreigiau Gwent).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision Caerdydd), Tomas Francis (Caerwysg), Jake Ball (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision Caerdydd), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision Caerdydd).
Y gemau sydd ar ôl i Gymru yn Y Chwe Gwlad
CYMRU v Ffrainc - Dydd Gwener, 26 Chwefror (Stadiwm Principality, 20:05)
Lloegr v CYMRU - Dydd Sadwrn, 12 Mawrth (Twickenham, 16:00)
CYMRU v Yr Eidal - Dydd Sadwrn, 19 Mawrth (Stadiwm Principality, 14:30)
Bydd llif byw arbennig o Cymru v Ffrainc ar Cymru Fyw o 19:35 nos Wener, ac am fwy o gyffro'r Chwe Gwlad ewch i'n is-hafan arbennig.