Cyngor Conwy i gasglu sbwriel bob tair wythnos
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Conwy wedi pleidleisio o blaid casglu sbwriel nad oes modd ei ailgylchu unwaith bob tair wythnos mewn cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Mawrth.
Bydd y cyngor hefyd yn cynnal cynllun peilot i gasglu sbwriel bob pedair wythnos mewn un rhan o'r sir.
Roedd Pwyllgor Craffu Cwsmeriaid Cyngor Conwy wedi argymell y dylid newid y drefn o gasglu sbwriel y sir i unwaith y mis er mwyn ceisio hybu pobl i ailgylchu mwy, ond cafodd yr argymhelliad yma ei wrthod yn y cyfarfod.
Yn ôl y cyngor, mae tua 59% o wastraff yn cael ei ailgylchu, ond mae'r awdurdod eisiau cynyddu'r ffigwr yma.
Ar hyn o bryd mae biniau sbwriel yn cael eu casglu unwaith bob pythefnos, fel nifer o ardaloedd eraill yng Nghymru.
Mae 'na dri chyngor yng Nghymru wedi cwtogi eu gwasanaeth er mwyn gwneud casgliadau bob tair wythnos.