Marwolaeth ysbyty: Dim camau cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Cwm Cynon

Fydd neb yn wynebu camau cyfreithiol yn dilyn marwolaeth gwraig 88 oed gafodd ei hanafu yn Ysbyty Cwm Cynon ym mis Mehefin 2014.

Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedi i Tegwen Roderick o Abercanaid ger Merthyr Tudful gael anafiadau gafodd eu disgrifio rel rhai "difrifol nad oedd esboniad iddyn nhw" pan oedd hi yn ysbyty Aberpennar.

Cafodd nifer o bobl eu harestio yn dilyn marwolaeth Mrs Roderick, ond clywodd gwrandawiad yn Aberdar fod pennaeth uned achosion cymhleth Gwasanaeth Erlyn y Goron, Catrin Evans, wedi dod i'r penderfyniad na fyddai unrhyw un yn cael ei erlyn yn yr achos hwn.

Dywedodd y Rhingyll Richard Fullwood o Heddlu'r De wrth y Crwner Andrew Barkley nad oedd gan yr heddlu "ddiddordeb pellach" yn yr achos.

Cafodd y crwner wybod fod y penderfyniad i beidio ac erlyn unrhyw un wedi ei wneud ar 20 Ionawr 2016. Dywedodd ei bod yn "resyn" nad oedd neb wedi ei hysbysu ynghynt er mwyn gallu bwrw mlaen â chwest llawn.

Clywodd y llys fod gan nai Tegwen Roderick bryderon penodol am y gofal a'r driniaeth y cafodd ei fodryb.

Dywedodd y crwner y byddai gwrandawiad arall yn cael ei gynnal ymhen rhyw fis ac y byddai cwest llawn yn cael ei gynnal cyn gynted a phosib wedi hynny.