Dyn yn ddieuog o achosi niwed bwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 36 oed o Wynedd wedi ei gael yn ddieuog o anafu dyn arall yn fwriadol.
Roedd Neil Truelove o Langwnadl ger Pwllheli'n cael ei gyhuddo o anafu Neil Brinley Jones, sy'n 23 oed, mewn digwyddiad ym mis Mehefin 2014.
Collodd Mr Jones lygad ar ôl cael ei daro â thwca neu machete, wedi iddo fe a chyn-bartner Mr Truelove, Sinita White fynd i gartre'r diffynydd.
Mae Mr Truelove yn dweud ei fod yn ceisio amddiffyn ei hun.
Bydd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon yn dychwelydd ddydd Mercher i ystyried cyhuddiad arall yn erbyn Neil Truelove - iddo achosi niwed anghyfreithlon.