Lori'n troi drosodd: Gyrrwr wedi marw
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Mae gyrrwr lori wedi marw yn dilyn digwyddiad ar yr A4076 ger Hwlffordd, Sir Benfro, fore Mawrth.
Aeth y lori oddi ar y ffordd rhwng Hwlffordd a Johnston a throi drosodd.
Fe gafodd y gyrrwr ei ladd yn y fan a'r lle.
Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio gan yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio ar dystion i'r digwyddiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.