Cyhoeddi grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd 67 o gwmnïau celfyddydol yn rhannu dros £25.8m o fis Ebrill, yn ôl ffigyrau gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae'r rhai sy'n elwa yn cynnwys cwmnïau opera, theatrau a cherddorfeydd, yn ogystal â chanolfannau'r celfyddydau a grwpiau addysgiadol.
Dyma'r bennod olaf o adolygiad buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC), sydd wedi penderfynu faint o gwmnïau sydd yn derbyn grantiau blynyddol, a faint o arian i'w ddosbarthu.
Mae'n cymharu â chyllid o £27.1m yn 2015/16.
Dywedodd cadeirydd CCC, Dai Smith fod y broses wedi bod yn un "heriol".
Mae cwmnïau sydd yn derbyn llai na £150,000 wedi cael eu diogelu o unrhyw doriadau.
Ond fe fydd eraill fel Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cenedlaethol Cymru yn gweld toriadau yn eu cyllidebau.
Fe fydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn gweld ei gyllid yn gostwng o £4,539,538 yn 2015/16 i £4,380,654 yn 2016/17.
Ond mae dau sefydliad wedi gweld cynnydd.
Bydd Ballet Cymru yn codi o £193,842 i £243,842, tra bydd Sinfonia Cymru bron yn dyblu i £111,459 o £210,459.
Dywedodd Dai Smith: "Mae o wedi bod yn adolygiad heriol. Serch hynny, rydym yn benderfynol o'r cychwyn i fod yn heriol, yn ddewr ac yn bell gyhraeddol.
"Er gwaetha gwaethaf toriad pellach o £1.5 miliwn o du Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu sicrhau a chynnal rhwydwaith cenedlaethol o sefydliadau sy'n perfformio i'r safonau uchaf."
Cafodd yr adolygiad buddsoddiad diwethaf ei gynnal yn 2010.
Mae'r CCC yn dosbarthu grantiau blynyddol, sef arian refeniw, i gefnogi gwaith craidd cwmnïau celfyddydol yng Nghymru.
Mae'r cyngor hefyd yn dosbarthu arian loteri ar gyfer prosiectau penodol.
Cwmnïau newydd
O'r 67 o gwmnïau fydd yn derbyn arian refeniw yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd pedwar cwmni newydd yn eu plith:
- Arts Alive - Elusen gelfyddydol addysgiadol a leolir yng Nghrug Hywel, Powys;
- Sefydliad y Glowyr Coed Duon - Canolfan cymunedol y celfyddydau yn Sir Caerffili;
- Jukebox Collective - Cwmni dawnsio stryd o Gaerdydd;
- Y Neuadd Les, Ystradgynlais - Canolfan i'r celfyddydau a'r gymuned ym Mhowys.
Yn ystod yr adolygiad buddsoddiad roedd 94 o gwmnïau wedi gwneud cais am fwy na £32m gan CCC.
Rhai'n colli allan
Yn ogystal â'r pedwar cwmni newydd i gyrraedd y rhestr derfynol, mae pump arall yn colli ei nawdd o fis Ebrill 2016:
- Earthfall - Cwmni dawns a theatr o Gaerdydd;
- Dawns TAN - Cwmni dawns yn ardal Castell-nedd Port Talbot;
- Theatr Ffynnon - Theatr i bobl ag anableddau yng Nghwmbrân;
- Touch Trust - Cwmni sy'n darparu rhaglenni symud creadigol unigryw ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu;
- SWICA Carnival - Cwmni o Gaerdydd sy'n trefnu carnifalau ar draws y wlad.
Straeon perthnasol
- 23 Medi 2015