Heddlu yn amddiffyn lladd ci yn fwriadol

  • Cyhoeddwyd
Ci hela a'r A55Ffynhonnell y llun, Google/Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Roedd ci tebyg i'r un yn y llun yn rhedeg mewn traffig

Mae Heddlu'r Gogledd wedi amddiffyn penderfyniad i daro ci a'i ladd yn fwriadol efo car - wrth i'r ci grwydro'n rhydd ar ffordd yr A55 yng Nghonwy.

Bu sawl ymdrech i ddal y ci ac fe gafodd un plismon ei frathu, meddai'r heddlu.

Ond mae rhai perchnogion cŵn yn anhapus gyda'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru y bydd yna ymchwilaid yn cael ei gynnal i'r digwyddiad.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyfeirio'r mater at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

'Penderfyniad cywir'

Mae perchennog y ci wedi dweud bod y swyddogion wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Nid yw'r perchennog, sy'n dod o du allan i Gymru, eisiau cyhoeddi ei enw, ond dywedodd ei fod yn deall bod gan yr heddlu benderfyniad "anodd iawn" i'w wneud oherwydd y perygl i fywydau pobl.

Roedd y ci yn rhedeg tuag at geir oedd yn dod i'w gyfeiriad rhwng Llanfairfechan a thwnnel Conwy yn oriau man bore Mawrth.

Dywedodd y llu nad oedd heddweision wedi gallu dod â'r ci dan reolaeth ac mai'r "unig opsiwn diogel" oedd i'w ladd.

'Dewis ofnadwy'

Dywedodd Alun Hughes, cyn arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd wrth Raglen Dylan Jones fod y digwyddiad yn un "trist ofnadwy" ac yn benderfyniad "amhosib i'r sawl oedd wedi gwneud hyn".

Ond wrth ymateb i'r feirniadaeth ar wefannau cymdeithasol ychwanegodd: "Mae pobl yma yn cael eu talu i wneud penderfyniadau anodd.

"Dio ddim yn ymarferol i gau ffordd fel yr A55," meddai.

"Mae peryglon gymaint yn fwy, roedd ambell gar neu lori wedi gorfod osgoi'r ci yma - a be di'r gorau bod rhywun yn derbyn galwad ffôn tua 03.30 y bore neu ymweliad gan heddwas yn dweud fod anwyliaid wedi ei ladd oherwydd bod wedi gorfod osgoi ci a mynd mewn i wal.

"Dyna oedd y dewis ofnadwy oedd yn wynebu'r person yma."

Disgrifiad,

Alun Hughes, cyn arolygydd gyda Heddlu'r Gogledd yn cael ei holi ar Raglen Dylan Jones

'Bygythiad gwirioneddol'

Roedd yr heddlu'n ymateb i adroddiadau bod anifail yn rhedeg mewn traffig am tua 03:00 ddydd Mawrth.

Fe wnaeth un heddwas geisio dod â'r ci dan reolaeth ond cafodd ei frathu ac fe wnaeth y ci ddianc meddai'r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd bod y ci yn "fygythiad gwirioneddol i yrwyr", ac nad oedd gan y llu unrhyw ddewis.

"Yn yr amgylchiadau peryglus, fe wnaeth swyddogion farnu mai'r unig ddewis diogel oedd rhedeg y ci drosodd ar ddigon o gyflymder i sicrhau y byddai'n cael ei ladd heb ddioddef," meddai.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick: "Roedd y rhain yn amgylchiadau anarferol iawn ac roedd yn benderfyniad anodd i'w wneud, yn enwedig gan fy mod yn deall bod y ddau heddwas dan sylw yn berchnogion cŵn eu hunain.

"Byddaf yn codi'r mater gyda'r heddlu a byddaf yn gofyn nifer o gwestiynau oherwydd mae'n bwysig sicrhau ein bod yn edrych i mewn i'r mater yn llawn.