Cory Allen i fethu gweddill y tymor gydag anaf
- Cyhoeddwyd

Bydd canolwr Cymru a'r Gleision, Cory Allen yn methu chwarae am weddill y tymor ar ôl anafu ei ffêr yn erbyn Leinster ddydd Sadwrn.
Fe aeth Allen, 23 oed, oddi ar y cae wrth i'r Gleision gael eu trechu o 14-13 ar Barc yr Arfau.
Dywedodd ar wefan gymdeithasol Instagram: "A gyda hynny daw diwedd fy nhymor! Torri fy nghalon gorfod mynd dan y gyllell eto."
Roedd wedi cael ei ryddhau o garfan Cymru i chwarae i'w ranbarth ar ôl methu ennill ei le yn y tîm cyntaf ar gyfer y Chwe Gwlad.
Ychwanegodd: "Yr unig beth alla i obeithio amdano yw bod yn iach trwy'r tymor nesaf."