Middlesbrough 3-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Caerdydd ergyd i'w gobeithion o gyrraedd safleoedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw gael eu trechu yn Middlesbrough.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen o ergyd Fabio o'r tu allan i'r cwrt cosbi, ond roedd hi'n gyfartal cyn hanner amser wrth i Matthew Connolly droi'r bêl i'w rwyd ei hun.
Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda gôl gan Gaston Ramirez cyn i David Marshall arbed cic gosb Grant Leadbitter i gadw Caerdydd yn y gêm.
Ond llwyddodd David Nugent i selio'r fuddugoliaeth ychydig funudau'n ddiweddarach yn dilyn gwaith da gan Albert Adomah.