Cynllun 'beiddgar' Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Syr Terry Matthews - rhaglweld
Disgrifiad o’r llun,
Syr Terry Matthews - rhagweld dyfodol disglair i ranbarth Bae Abertawe

Mae Ardal Ddinesig Bae Abertawe wedi cyflwyno cais am Gytundeb Dinesig 'Arfordir y Rhyngrwyd' i lywodraethau Cymru a'r DU.

Nod y cynllun yw defnyddio grym rhwydweithiau digidol i ddelio gyda materion fel ynni, iechyd a thwf ariannol.

Mae'r rhai tu ôl i'r fenter yn credu y gallai'r cynllun gyfrannu £1.3 biliwn i'r economi gan greu 33,000 o swyddi dros gyfnod o 20 mlynedd.

Mae Ardal Ddinesig Bae Abertawe yn cynnwys Dinas Abertawe, a siroedd Castell-nedd Port Talbot, Caerfyrddin a Phenfro.

Dywedodd Sir Terry Matthews, cadeirydd bwrdd Ardal Ddinesig Bae Abertawe, y byddai gosod cebl opteg ffibr o Efrog Newydd i Benrhyn Gŵyr yn trawsnewid economi'r de orllewin, gan gyflwyno y band eang cyflyma sy ar gael.

"Fe ddaeth Bae Abertawe yn enwog drwy'r byd yn yr 'oes beiriannol' gyntaf. Ein nod yw arwain drwy Gymru a'r DU wrth i'r byd fynd i mewn i 'oes beiriannau digidol newydd," meddai Mr Matthews.

"Rwy'n gallu rhagweld Bae Abertawe'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ddyfeisgarwch a thwf economaidd unwaith eto.

"Yn fy llythyr i'r Canghellor rwyf wedi disgrifio'r ymrwymiad ehangaf posib gan y sector cyhoeddus fel 'naid o ffydd' fydd yn werthfawr. Rwy'n gobeithio y bydd y weledigaeth ddewr yma'n cael cefnogaeth a chydnabyddiaeth gan lywodraethau yn San Steffan a Chaerdydd."