Corff dyn mewn afon: Cyhoeddi enw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod yn farw mewn afon yn Y Fenni ddydd Llun.
Roedd John Sullivan yn 66 oed ac yn dod o'r dref.
Dywedodd Heddlu Gwent ei fod wedi ei dynnu o'r dŵr am 10:00 fore Llun; lle cafodd ei ganfod yn farw.
Roedd criwiau tân o'r Fenni a Blaenafon hefyd yn rhan o'r gwaith chwilio.
Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth yn parhau.