Cyswllt rhwng achosion o foddi ac alcohol
- Cyhoeddwyd

Roedd gan bron i draean yr achosion o foddi ymhlith pobl ifanc rhwng 2009 a 2014 gysylltiad posibl ag alcohol, medd adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Edrychodd yr adolygiad a 26 o farwolaethau, yn ymwneud a phobl 24 oed neu iau, rhwng Mis Medi 2009 a Mis Medi 2014.
Roedd gan wyth o'r marwolaethau gysylltiad posibl ag alcohol, ac roedd 21 o'r rhai fu farw'n fechgyn.
Mae'r adroddiad yn nodi hefyd y gallai goruchwyliaeth briodol gan oedolyn arbed bywydau mewn rhai achosion.
Un o argymhellion yr adroddiad yw y dylai sefydliadau gydweithio'n well i wella diogelwch.
Achosion boddi
- Roedd 21 o'r marwolaethau (81%) yn ymwneud â phobl rhwng 12-24 oed - y rhan fywaf o'r rhain mewn "dŵr agored" fel llynnoedd a phyllau
- Roedd pump o'r marwolaethau (19%) yn ymwneud a phlant 11 oed a iau - y rhan fwyaf o'r rhain mewn "dŵr caeedig" fel pyllau nofio
- Roedd 21 o'r rhai fu farw (81%) yn fechgyn
Dywedodd Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yr Amgylchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae marwolaeth plentyn neu berson ifanc yn drychineb sy'n cael effaith anfesuradwy ar deuluoedd, ffrindiau, a chymunedau. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r peryglon.
"Mae'r adroddiad hwn wedi gwneud nifer o ganfyddiadau am farwolaeth plant a phobl ifanc drwy foddi. Mae'n dangos bod yfed alcohol yn gysylltiedig â boddi ymhlith pobl ifanc, ac y gall goruchwyliaeth agosach a phriodol gan oedolion helpu i atal boddi mewn rhai achosion.
"Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad yn helpu asiantaethau i weithio gyda'i gilydd mewn fforwm cenedlaethol i leihau cyfraddau boddi a gwella diogelwch dŵr.
Mae David Walker, o'r Sefydliad Brenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) yn croesawu'r adroddiad:
"Mae angen dull cydlynol i wneud y newid sylweddol sydd ei angen i leihau marwolaethau drwy foddi damweiniol yng Nghymru a gweddill y DU ymhellach.
"Mae sefydlu fforwm newydd sy'n darparu negeseuon diogelwch clir a chytbwys ar ddŵr, ynghyd â chynllun cydlynol i Gymru, yn gam cyntaf hanfodol."