UE 'yn cynnig cyfleoedd enfawr' i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Tim FarronFfynhonnell y llun, Getty Images

Byddai aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfleoedd busnes a thwrisiaeth "enfawr" i Gymru, medd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron.

Roedd yn siarad wrth lansio ymgyrch y blaid ar gyfer y refferendwm ar 23 Mehefin.

Dywedodd fod twristiaeth yn cyfrannu £6.9bn i economi Cymru, ac yn cefnogi 206,000 o swyddi.

Ond mae cyn-gynghorwr i Margaret Thatcher wedi dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn "gamweithredol".

Yn ôl Mr Farron, y Democratiad Rhyddfrydol yw'r unig blaid Brydeinig sy'n "hollol unedig" ar aros o fewn yr UE.'

'Cyfleoedd enfawr'

Mae disgwyl iddo ymweld a busnesau yn Aberhonddu gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, yn ddiweddarach.

"Mae'r UE yn cynnig cyfleoedd enfawr i'n busnesau bychan a'r sector dwristaidd. Fedra i ddim a deall unrhyw un fyddai eisiau troi cefn ar y cyfleoedd hynny," dywedodd.

"Wrth gwrs, rydym yn cydnabod nad yw'r UE yn berffaith; dyw San Steffan ddim chwaith.

"Ond nid trwy bwdu, codi'ch pêl a'i throi hi am y mae ennill."

Ond dywedodd yr Athro Minford: "Ry'n ni'n cael ein rheoli gan Ewrop ac mae'n marchnad lafur, ein diwydiant a'n economi yn cael ei effeithio ganddo."