Gwrthdrawiad Casnewydd: Dyn yn farw a merch yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw, a merch yn ei harddegau wedi ei hanafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Casnewydd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig ar ôl 23:00 nos Fercher ar Belmont Hill, Caerllion.
Fe gafodd dyn 21 oed, o Gaerllion ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle, ac fe aethpwyd a merch 16 oed o Bontypŵl i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.