Dechrau'r gwaith o ddymchwel Coliseum Porthmadog
- Published
Mae'r gwaith o ddymchwel hen sinema'r Coliseum ym Mhorthmadog wedi dechrau.
Fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd o blaid dymchwel yr hen sinema ym mis Medi 2015.
Er gwaetha'r ffaith bod 300 o wrthwynebiadau wedi dod i law'r cyngor ar y pryd, fe wnaeth y pwyllgor gymeradwyo'r cais.
Fe wnaeth y sinema gau yn 2011 ar ôl 80 mlynedd o ddangos ffilmiau a bu nifer yn ymgyrchu i'w hail-agor am flynyddoedd.
Dywedodd y cyngor ym mis Medi fod yr adeilad art deco, gafodd ei adeiladu yn 1931, wedi'i werthu i ddatblygwr ond ei bod yn dal i fod yn ansicr beth fydd yn digwydd i'r safle.