Marwolaeth Hwlffordd: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod dyn 33 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes yn Hwlffordd.
Daeth swyddogion o hyd i gorff y ddynes, oedd yn ei 20au, yn y dref yn oriau man bore Llun.
Mae'r dyn wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Nid yw'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r ddynes hyd yma.