Prif ganolfan y Swyddfa Ystadegau i aros yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Casnewydd fydd yn parhau fel prif ganolfan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ôl y gweinidog sy'n gyfrifol amdano.
Fe wnaeth adroddiad dros dro yn 2015 argymell cryfhau'r ganolfan yn Llundain ynghyd a'r gweithlu o 2,000 yn ne Cymru.
Dywedodd bod y symudiad o Lundain i Gasnewydd yn 2007 wedi cael effaith "niweidiol" ar arbenigedd.
Ond dywedodd y Tâl-feistr Cyffredinol, Mathew Hancock: "Ry'n ni'n mynd 'nôl i Gasnewydd," gan addo buddsoddiad newydd mewn technoleg.
Ym mis Awst, fe wnaeth adroddiad i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol arwain at bryder y gallai swyddi gael eu colli yng Nghasnewydd.
Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi cyn y gyllideb ym mis Mawrth.
Ond dywedodd Mr Hancock wrth BBC Cymru ddydd Iau y bydd Casnewydd yn parhau fel prif ganolfan y Swyddfa Ystadegau.
Dywedodd ei fod eisiau "adeiladu ar dalentau'r bobl yno, a chryfhau busnesau digidol yng Nghasnewydd ac ar draws de Cymru".