Colofn y clo: Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
coombs v ffraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Coombs yn chwarae yn erbyn Ffrainc yn y Chwe Gwlad yn 2013

Mae chwaraewr Cymru a'r Dreigiau, Andrew Coombs, yn rhannu ei farn am gemau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni mewn cyfres o golofnau arbennig gyda Cymru Fyw.

Nos Sadwrn, am 19:30 ar S4C, bydd Andrew yn rhan o dîm sylwebu'r Clwb Rygbi Rhyngwladol ar gyfer gêm Cymru Dan 20 v Ffrainc Dan 20 ym Mae Colwyn.

Ond cyn hynny, bu'n trafod gobeithion y tîm cyntaf gyda Cymru Fyw wrth iddyn nhw baratoi at ymweliad y Ffrancwyr nos Wener:

Angen dechrau tanllyd

Bydd Ffrainc yn fwystfil cwbl wahanol yr wythnos yma. Roedd Yr Alban yn chwarae'n dda iawn [yn y gêm ddiwethaf] ond y gwahaniaeth yw bod gan Ffrainc chwaraewyr sy'n gallu gwneud rhywbeth mas o ddim byd. Chwaraewyr sy'n gallu newid gêm.

Dyw Cymru heb golli yn y pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc a bydd hynny'n rhoi lot o hyder iddyn nhw. Ond mae gan Ffrainc dîm da nawr a gyda Guy Noves yn hyfforddi dwi'n meddwl na hon fydd prawf caletaf Cymru hyd yn hyn yn sicr.

Roedd Iwerddon yn mynd drwy gyfnod gwahanol gyda rhai yn ymddeol a lot o anafiadau ond gyda'r ffordd mae Ffrainc wedi chwarae yn y ddwy gêm gyntaf, bydd ganddyn nhw lot o hyder hefyd.

'Dych chi'n gallu gweld bod Noves wedi dod mewn a bod y chwaraewyr yn lot fwy hapus, ac mae'n rhaid i chi fod yn hapus er mwyn gallu chwarae eich rygbi gorau. Dyma'r tro cyntaf mewn pedair blynedd i ni weld Ffrainc fel hyn ac mae'n beth da i'r bencampwriaeth.

Mae gan y bois ormod o brofiad i gymryd y gêm yn ganiataol. Mae'n rhaid i ni ddechrau'n dda, dechrau'n danllyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Guy Noves yn brif hyfforddwr ar Ffrainc ar ôl Cwpan y Byd 2015

Cymryd y cyfle

Ar ôl gêm Iwerddon, o'n i'n meddwl bydde Warren Gatland wedi dod â Dan Lydiate 'nôl ar gyfer yr Alban. Ond ar ôl gweld gêm y Gweilch yn erbyn Caeredin, i fod yn gwbl onest, doedd e ddim ar ei orau.

Ond mae Gatland, Shaun Edwards a Rob Howley yn gwybod pa mor dda yw Lydiate ac mae Ffrainc yn mynd i fod yn gorfforol iawn, ac mae Lydiate yn ddewis da i guro'r frwydr yna.

Dyw Justin Tipuric heb gael ei gemau gorau dros Gymru yn ddiweddar, ond os y'ch chi ddim yn ddewis cynta' mae'n rhaid i chi neud yn siŵr eich bod chi'n cael gêm wych pob wythnos achos mae'r bois ma' Gatland a Shaun Edwards yn eu hoffi go iawn yn mynd i ddod yn ôl mewn yn syth.

Fel chwaraewr sy' ddim yn ddewis cyntaf, chi yn teimlo fel chi methu gwneud unrhyw beth yn anghywir neu chi ddim yn mynd i chwarae eto. Ond mae Gatland yn gwybod beth mae'n gwneud - mae wedi profi hynny drwy ennill gymaint o bethau gyda Chymru.

Y golled fawr dwi'n meddwl yw Luke Charteris. Roedd e'n achosi trafferth go iawn yn y lein yn erbyn yr Alban. Ond dwi'n siŵr bydd e wedi bod yn y garfan yr wythnos hon yn rhannu ei wybodaeth am Ffrainc.

Mae hi'n dda i weld Lydiate yn erbyn Wenceslas Lauret hefyd achos dwi'n gwybod eu bod nhw'n ffrindiau da ers eu dyddiau yn Racing Metro ac roedd e'n cadw Lydiate mas o'r tîm yn fan'na felly bydd Lydiate moyn profi pwynt.

Mae Gatland moyn gweld asgellwyr yn gorffen symudiadau a gafodd Tom [James] ei ddal gan y canolwr yn erbyn yr Alban [wrth fynd am gais]. Sai'n siŵr os yw hynny'n iawn, ond fel yna mae Gatland yn gweithio'n anffodus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Dan Lydiate yn wynebu ei hen gyfaill, Wenceslas Lauret, nos Wener

Ennill pump yn olynol?

Dwi'n meddwl bydd rhaid cael y bêl yn nwylo George North ac Alex Cuthbert achos mae'r bois 'ma mor fawr, mae'n rhaid ni jyst gadael nhw i fynd.

Mae'n rhaid i ni gael gêm dadlwytho well, dydyn ni ddim hyd yn oed yn trio dadlwytho. Mae'n rhywbeth bydd yn rhaid iddyn nhw weithio arni neu nawn ni ddim sgorio lot o geisiau.

Dwi'n gwybod bydd Ffrainc yn ceisio cymryd Cymru ar yn y pac - maen nhw bob tro yn gwneud hynna. Dwi'n meddwl bydd hi'n gystadleuaeth enfawr i'r bois yn y rheng flaen.

Cyn i'r bencampwriaeth ddechrau, o'n i'n meddwl bydde Cymru'n ennill y gêm yma'n rhwydd ond dwi'n meddwl bydd hi'n gêm agos iawn. Fel rhan fwya' o'r gemau hyd yn hyn, dwi'n meddwl bydd hi lawr i gic neu gwpl o bwyntiau.

Sgôr? 24-21 i Gymru.

Clwb Rygbi Rhyngwladol - Cymru v Ffrainc, S4C, nos Wener, 26 Chwefror am 19:15.

Cofiwch hefyd am lif byw arbennig Cymru Fyw yn cychwyn am 19:35.