BBC Cymru Fyw

Euro 2016: 100 diwrnod i fynd

Published
image copyrightUEFA
Ymhen 100 diwrnod fe fydd cystadleuaeth bêl-droed Euro 2016 yn dechrau, ac wrth gwrs fe fydd Cymru yno.
Dim ond rhif yw'r 100 yna, ond mae rhifau yn ganolog i drefnu cystadleuaeth fel hyn, felly beth am gael golwg ar ychydig mwy o rifau?
Mae Cymru yn un o 24 tîm i gyrraedd y rowndiau terfynol, ac fe fydd gan bob gwlad hawl i ddewis 23 o chwarewyr i'w carfannau terfynol - dyna i chi gyfanswm o 552 o chwaraewyr.
Rhwng 10 Mehefin a 10 Gorffennaf - 31 diwrnod - fe fydd 51 o gemau'n cael eu chwarae yn y gystadleuaeth, a dyma'r 3ydd tro i'r bencampwriaeth gael ei chynnal yn Ffrainc.
image copyrightWikimedia
image captionBydd gêm gyntaf Cymru yn yr ardderchog Stade Bordeaux-Atlantique
Fe fydd y gemau yn cael eu rhannau rhwng y 10 stadiwm fydd yn cynnal gemau mewn 10 dinas ar draws y wlad:
  1. Saint-Denis - Stade De France *
  2. Marseille - Stade Velodrome *^
  3. Lyon - Stade des Lumieres
  4. Lille - Stade Pierre-Mauroy
  5. Paris - Parc des Princes *^
  6. Bordeaux - Stade Bordeaux-Atlantique
  7. Saint-Etienne - Stade Geoffroy-Guichard *
  8. Nice - Allianz Riviera
  9. Lens - Stade Felix-Bollaert *
  10. Toulouse - Stadium Municipal *^
* - cafodd y stadiymau yma eu defnyddio yng Nghwpan y Byd 1998
^ - cafodd y rhain eu defnyddio yng Nghwpan y Byd

2,500,000 tocyn

Er mwyn cynnal y gystadleuaeth, mae Ffrainc wedi gwario €1,670,000,000 ar adeiladu neu adnewyddu'r deg stadiwm fydd yn cael eu defnyddio.
Rhag i chi boeni gormod am y trefnwyr, maen nhw eisoes wedi gwerthu hawliau darlledu Euro 2016 am €1,000,000,000, ac fe fydd noddwyr yn cyfrannu €400,000,000 tuag at y gystadleuaeth, felly maen nhw bron â chael eu harian yn ôl cyn bod yr un tocyn wedi'i werthu.
O son am docynnau, fe fydd cyfanswm o 2,500,000 yn cael eu gwerthu am yr holl gemau. Mae'r tocyn rhataf i weld un o'r gemau grwp yn costio €25, ac mae'r tocyn drytaf i weld y rownd derfynol yn debyg o gostio €895!
Mae UEFA wedi rhoi 20,000 o docynnau i blant difreintiedig ar draws Ffrainc fel arwydd o ewyllys da, ac mae 2,000 o docynnau i bob gêm yn cael eu clustnodi i drigolion y ddinas sy'n cynnal y gêm.
image copyrightTc1
image captionTocyn gwerthfawr i'r gêm agoriadol
image copyrightUEFA
Heb gynnwys y rhai sy'n mynd i'r gemau mae Ffrainc yn disgwyl dros 7,000,000 o ymwelwyr o dros 125 o wledydd i fynychu'r 'fanzones' fydd ymhob un o'r deg dinas ac ambell un arall ar draws Ffrainc.
Ond wrth gwrs, fe fydd llawer mwy yn gwylio ar y cyfryngau. Fe wnaeth 299,000,000 wylio rownd derfynol Euro 2012, ac eleni mae'r trefnwyr yn gobeithio pasio 300,000,000.
Ar wefan Twitter, fe gyhoeddwyd 16,500,000 o negeseuon trydar yn ystod y ffeinal, ac yn ystod y cyfnod prysuraf, roedd 15,358 trydar BOB EILIAD!

Y rowndiau rhagbrofol

Mae'n well i ni gloi gydag ambell rif yn ymwneud â'r chwarae, drwy edrych yn ôl dros y rowndiau rhagbrofol.
Y prif sgoriwr oedd Robert Lewandowski o Wlad Pwyl gyda 13 gôl.
Y pasiwr prysuraf oedd Toni Kroos o'r Almaen gyda 1007 pas.
Ond mae tri golwr yn rhannu'r record am y nifer uchaf o gemau heb ildio gôl (7) yn y rowndiau rhagbrofol, sef Ciprian Tatarusanu o Romania, Joe Hart o Loegr....
...a Wayne Hennessey, gan obeithio bydd y Cymro'n parhau gyda'r record ardderchog yna ym mis Mehefin!