Cymru v. Ffrainc: Gêm allweddol

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n gêm y mae'n rhaid i Gymru ennill

Doedd gêm gyfartal yn erbyn Iwerddon ddim yn ddechrau ofnadwy i'r bancampwriaeth i Gymru, er i hynny diweddu gobeithion am y Gamp Lawn a'r Goron Driphlyg.

Roedd curo'r Alban yn hwb, er bod elfennau i'r perfformiad wedi siomi nifer.

Ond os yw Cymru am ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, mae curo'r Ffrancwyr nos Wener yn hanfodol.

Ers y golled yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd 2011, mae tîm Warren Gatland wedi curo Ffrainc bedair gwaith - record 100% ers hynny a dweud y gwir.

Ond mae gan y Ffrancwyr hyfforddwr newydd, ac mae eu hyder yn tyfu wedi iddyn nhw ennill eu dwy gêm gyntaf yn erbyn Yr Eidal ac Iwerddon.

Newidiadau

Bydd Alex Cuthbert yn dychwelyd yn lle Tom James ar yr asgell mewn un o dri newid i dîm Cymru o'r un gurodd yr Albanwyr.

Roedd nifer wedi darogan un o'r newidiadau eraill wrth i Dan Lydiate ddychwelyd i rhif 6 yn y rheng ôl gyda'r capten Sam Warburton yn symud i 7, ond fe fydd presenoldeb anferth Luke Charteris ar goll o'r ail reng oherwydd anaf, er bod Bradley Davies wedi profi'n hen ddigon abl i lenwi'r bwlch yn y gorffennol.

Mae pum newid yn nhîm Ffrainc, ac mae'r ddau newid yn yr olwyr - Djibril Camara ar yr asgell a Maxime Machenaud fel mewnwr - yn cael eu gweld fel ymdrech i chwarae gêm fwy agored.

Ond mae hyfforddwr Cymru yn gadarn ei farn am chwarae rygbi agored, a dywedodd Gatland:

"Rwy'n clywed pobl yn gofyn lle mae 'flair' y Ffrancwyr wedi mynd... dyw e ddim am nad yw'r chwaraewyr ganddyn nhw, ond mae timau yn llawer fwy trefnus yn amddiffynnol nawr - does dim lle ar y cae.

"Mae cyfleoedd yn cael eu creu gan bobl yn methu tacl neu wneud camgymeriad, ac ar y lefel yma dyw hynny ddim yn digwydd yn aml.

"Ry'n ni'n ceisio bod yn ddyfeisgar a chreu lle, ond y mwya ydych chi'n ceisio gwneud hynny, mae'r timau gorau yn mynd yn fwy amddiffynnol hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Guy Noves yn brif hyfforddwr ar Ffrainc ar ôl Cwpan y Byd 2015

Colofn y Clo

Yn ei golofn i Cymru Fyw dywedodd clo Cymru Andrew Coombs:

"Dwi'n meddwl bydd rhaid cael y bêl yn nwylo George North ac Alex Cuthbert achos mae'r bois 'ma mor fawr, mae'n rhaid i ni jyst gadael nhw i fynd.

"Mae'n rhaid i ni gael gêm dadlwytho well... dydyn ni ddim hyd yn oed yn trio dadlwytho. Mae'n rhywbeth bydd yn rhaid iddyn nhw weithio arno neu 'nawn ni ddim sgorio lot o geisiau."

Roedd ganddo eiriau caredig hefyd i hyfforddwr newydd Ffrainc Guy Noves, gan ychwanegu:

"'Dych chi'n gallu gweld bod Noves wedi dod mewn a bod y chwaraewyr yn lot fwy hapus, ac mae'n rhaid i chi fod yn hapus er mwyn gallu chwarae eich rygbi gorau. Dyma'r tro cyntaf mewn pedair blynedd i ni weld Ffrainc fel hyn ac mae'n beth da i'r bencampwriaeth."

A fydd hynny'n beth da i Gymru neu beidio... wel fe gawn ni weld nos Wener.

Cofiwch y gallwch ddilyn y cyfan ar lif byw arbennig Cymru Fyw.

Y TIMAU

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Jake Ball, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Gareth Anscombe.

Ffrainc: Maxime Medard, Vrimi Vakatawa, Maxime Mermoz, Jonathan Danty, Djbril Camara, Jules Plisson, Maxime Machenaud; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (capt), Rabah Slimani, Paul Jedrasiak, Alexandre Flanquart, Wencelsas Lauret, Antoine Burban, Damien Chouly.

Eilyddion: Camille Chat, Uini Atonio, Vincent Pelo, Yoann Maestri, Loann Goujon, Sebastien Bezy, Francois Trinh-Duc, Gael Fickou.