Cwmni arall am gynhyrchu ynni o'r môr
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni arall wedi dod i'r amlwg i herio Tidal Lagoon Power (TLP) fel y cyntaf i ddatblygu ynni llanw yn y DU.
Bwriad cynllun gwerth £1 biliwn gan TLP oedd defnyddio'r dechnoleg newydd yn Abertawe i ddechrau, gyda phum lagŵn arall ar draws Prydain.
Ond nawr mae cwmni Ecotricity, un o'r cwmnïau ynni gwyrdd cyntaf yn y DU, yn dweud eu bod nhw'n gweithio ar gynlluniau i gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio'r llanw.
Maen nhw'n honni y bydd y pris yn is na TLP, ac y bydd y cynllun yn cael ei ariannu dros gyfnod llai.
Dywedodd Ecotricity - sydd â'u pencadlys yn Stroud yn Sir Gaerloyw - wrth BBC Cymru eu bod wedi ysgrifennu at lywodraeth y DU cyn iddyn nhw gyhoeddi adolygiad o'r sector bythefnos yn ôl.
Mae'r cwmni'n credu y gall ynni'r llanw weithio ar bris rhatach na'r £168 am bob MWh (megawatt awr) am 35 mlynedd sydd dan ystyriaeth ar gyfer Bae Abertawe.
Dywedodd sefydlydd y cwmni, Dale Vince: "Roedden ni'n bryderus bod llywodraeth y DU yn cael ei gwthio i dalu pris rhy ddrud am ynni'r llanw yng nghynllun Bae Abertawe.
"Byddai hynny'n ddrwg i ynni adnewyddadwy yn gyffredinol oherwydd byddai'n cadarnhau'r myth bod ynni gwyrdd yn ddrud, ac yn ddrwg i ynni'r llanw yn benodol oherwydd mae'n bosib na fydd hynny'n gweld golau ddydd."
Mae TLP nawr yn trafod gyda'r llywodraeth am bris llai am gynhyrchu trydan dros gyfnod hirach yn Abertawe.
Ond mae Ecotricity'n credu bod y pris yna yn dal yn rhy uchel.
Doedd y cwmni ddim yn fodlon datgelu pa safleoedd sydd dan ystyriaeth ganddyn nhw, nac a yw Abertawe yn un o'r safleoedd hynny, ond roedden nhw'n cydnabod bod maint y llanw yn aber Afon Hafren yn ddeniadol.
Mae disgwyl cyhoeddiad pellach gan y cwmni yn yr haf.
Mae Ecotricity yn rhedeg 70 o dyrbinau gwynt sy'n cynhyrchu digon o drydan i dros 40,000 o gartrefi a 175,000 o gwsmeriaid.
Dywedodd llefarydd ar ran TLP: "Mae gweld cystadleuaeth yn dod i'r farchnad yma yn arwydd clir arall bod lagŵn llanw Bae Abertawe yn dangos ei fod yn torri tir newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2016