Y Tour of Britain yn dychwelyd i Gymru eto eleni

  • Cyhoeddwyd
Tour of Britain
Disgrifiad o’r llun,
Y Tour ar ei ffordd tuag at Lanberis y llynedd

Bydd beicwyr gorau'r byd yn cystadlu mewn lleoliadau yng Nghymru unwaith eto eleni fel rhan o'r Tour of Britain.

Dinbych yw'r lleoliad sydd wedi ei ddewis ar gyfer rhan gyntaf y daith yng ngogledd Cymru a hynny ar 7 Medi.

Bydd y beicwyr yn teithio trwy Sir y Fflint cyn mynd tua'r de i orffen ger maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Y diwrnod wedyn, byddan nhw'n cychwyn o Aberdâr ac yn mynd ar draws de Cymru cyn gorffen yng Nghaerfaddon.

'Cyfle gwych'

Mae lleoliadau yng Nghymru wedi eu defnyddio gan feicwyr fel rhan o'r daith ers 2010, gyda'r Tour yn dechrau o Sir Fôn y llynedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at wahodd y Tour of Britain eto eleni ac wrth ein boddau bod rhai lleoliadau newydd yn mynd i gael blas o'r daith.

"Mae'r Tour of Britain yn gyfle gwych i ddangos tirlun unigryw a phrydferth Cymru i'r byd a hefyd yn dangos ein bod yn gallu gwahodd amryw o ddigwyddiadau mawr i Gymru."

Mae cynghorwyr yn yr ardaloedd y bydd y beicwyr yn ymweld â nhw yn dweud y bydd y daith yn hwb economaidd ac i'r diwydiant twristaidd.

Bydd y Tour yn cychwyn yn Glasgow ar 4 Medi ac yn gorffen yn Llundain ar 11 Medi.