Ffliw moch mewn cartref gofal
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o gleifion mewn cartref gofal ym Mae Colwyn wedi eu hanfon i'r ysbyty ar ôl cael eu taro'n wael gyda symptomau o'r afiechyd ffliw moch.
Mae un claf yng nghartref Eithinog wedi profi yn bositif i'r feirws H1N1 ac mae pump arall wedi eu hanfon i'r ysbyty. Mae'r cartref yn gofalu am gleifion gydag anableddau corfforol.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni sydd yn gyfrifol am y cartref:
"Mae chwech o gleifion o Eithinog ym mae Colwyn wedi eu hanfon i'r ysbyty ers Chwefror 17 gyda symptomau tebyg i'r ffliw. Mi ydyn ni'n dymuno gwellhad buan iddyn nhw. Mae un person wedi profi'n bositif i'r feirws H1N1."
Mae Leonard Cheshire Disability, sy'n gyfrifol am y cartref, yn dweud eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gwasanaeth iechyd lleol yn yr ardal.
Straen gweddol newydd yw ffliw moch neu'r feirws H1N1 ac mae'n achosi symptomau tebyg i'r ffliw. Y tarddiad oedd moch ond mae'n lledaenu o un person i berson arall.
Mi oedd yna bandemig yn 2009 ond mae nawr yn cael ei ystyried fel feirws ffliw arferol.
Mae modd osgoi cael y clefyd trwy gael brechiad ffliw blynyddol.
Dywedodd Dr Chris Whiteside o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae ffliw o gwmpas Cymru ar hyn o bryd, ac rydym yn monitro'r achosion fel rhan o'n gwaith."
"Rydym yn ymwybodol o'r achosion yn y cartref gofal yn y Gogledd, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda'r cartref a'r awdurdod iechyd lleol a meddygon teulu er mwyn atal yr afiechyd rhag cael ei drosglwyddo ymhellach o fewn y cartref."