Dim ymchwiliad annibynnol ar ôl i gi gael ei ladd
- Cyhoeddwyd

Ni fydd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn cynnal ymchwiliad wedi i gi gael ei ladd yn fwriadol gan Heddlu'r Gogledd.
Mae'r Comisiynydd, Jan Williams, wedi dweud yn lle hynny bydd adolygiad gyda "mewnbwn arbenigwyr" gan gynnwys yr RSPCA a rhai o'r maes milfeddygol.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi amddiffyn y penderfyniad i ladd y ci wrth iddo grwydro'n rhydd ar yr A55 yng Nghonwy.
Maen nhw'n dweud bod yna sawl ymdrech wedi bod i ddal y ci a bod un plismon wedi ei frathu.
Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo perchnogion cŵn.
Dywedodd Jan Williams: "Rydyn ni yn deall pryder y cyhoedd wedi'r digwyddiad pan gafodd ci ei ladd ar yr A55 yn gynharach wythnos yma. Wedi i ni ystyried yn ofalus y mater gafodd ei gyfeirio aton ni gan Heddlu'r Gogledd, rydym wedi penderfynu y dylai'r llu barhau gyda'i ymchwiliad ei hunain.
"Dw i wedi cael sicrwydd gan y dirprwy brif gwnstabl bod y mater yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn. Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal gyda mewnbwn grŵp o arbenigwyr sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r RSPCA, y proffesiwn milfeddygol ac arbenigwr heddlu ffyrdd o lu gwahanol.
"Dw i wedi gofyn bod y dirprwy brif gwnstabl yn gadael i mi wybod sut mae'r ymchwiliad yn dod yn ei flaen yn gyson."