Cwest Cheryl James: Gwadu cael rhyw gyda chyd-filwr

  • Cyhoeddwyd
Pte Cheryl James
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cheryl James ym marics Deepcut yn 1995

Mae milwr wedi gwadu cael rhyw gyda merch 18 oed gafodd ei darganfod wedi ei saethu i farwolaeth ym marics Deepcut yn Surrey yn 1995.

Dywedodd Ian Atkinson wrth gwest i farwolaeth Cheryl James o Langollen mai dim ond wedi cusanu oedden nhw a "dyna'r oll" - a hynny ar un achlysur yn unig.

Clywodd y gwrandawiad yn gynharach bod Sarjant Andrew Gavaghan wedi ei gorfodi hi i mewn i ystafell gyda'r Preifat Atkinson i gael rhyw y noson cyn iddi farw.

Ond fe wnaeth Mr Atkinson ddisgrifio'r digwyddiad fel "cusan feddwol".

"Ni aeth hi'n bellach na hynny," meddai. "Dim ond cusan oedd hi. Roedd hyn wythnos neu ddwy cyn marwolaeth Cheryl."

Roedd y Preifat James yn un o bedwar recriwt i farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd.

'Merch dawel'

Dywedodd Mr Atkinson ei fod wedi synnu wedi iddo glywed am yr honiadau gafodd eu gwneud gan gyn-filwr, Mark Beards, yn ystod y paratoadau at y cwest.

"Dydw i ddim yn gwybod pam fyddai'n gwneud hynny na beth oedd yn meddwl," meddai.

Fe wnaeth Mr Atkinson ddisgrifio'r Preifat James fel "merch dawel".

Ychwanegodd ei fod wedi clywed ei bod mewn perthynas â rhywun o farics arall a'i bod wedi cael rhyw gyda milwr arall ym marics Deepcut.

Mae'r cwest yn parhau.