Darganfod grenâd o'r Ail Ryfel Byd mewn bag o deganau
- Published
image copyrightWales News Service
Cafodd siop elusen yng Nghasnewydd ei gwagio brynhawn Iau ar ôl i grenâd o'r Ail Ryfel Byd gael ei darganfod mewn bag o deganau.
Bu arbenigwyr difa bomiau yn siop Barnados yn ardal Malpas o'r ddinas ac fe lwyddodd y tîm i'w symud yn ddiogel wedi i'r heddlu roi rhuban o gwmpas yr ardal.
Roedd y grenâd yn y siop am "sawl wythnos", meddai'r perchenog, Sue Humphreys, a dywedodd nad oedd y staff "wedi mynd i banig" ar ôl ei ddarganfod.
Roedd y pin yn ei le ac ar ôl i weithwyr wneud ymchwil ar-lein, daeth i'r amlwg mai grenâd oedd y ddyfais.
Yn ôl Heddlu Gwent, roedd yn "risg isel" i'r cyhoedd ac fe gafodd pawb eu "symud yn ddiogel".