Trydan dŵr gam yn nes mewn dwy gymuned

  • Cyhoeddwyd
Ynni
Disgrifiad o’r llun,
Yr hydro yn Abergwyngregyn

Mae dwy gymuned yn y gogledd gam yn nes yn eu cynlluniau i gynhyrchu trydan dŵr wrth iddyn nhw ddechrau cynnig cyfrannau i drigolion yr ardal.

Bydd y cyfrannau'n costio £250 yr un ac ar gael i'w prynu am ddau fis.

Hydro Ogwen ydy'r enw ar y cynllun ynni yn Nyffryn Ogwen ac mi fydd yn cael ei adeiladu ar wely'r afon yn agos i Bont Ogwen. Mae'r rhai tu ôl i'r cynllun yn gobeithio y bydd yn cynhyrchu incwm o dros £66,950 y flwyddyn.

Y bwriad yn Nyffryn Peris ydy creu tyrbin dŵr 55kW ar yr Afon Goch. Yma mae'r gymuned yn disgwyl y bydd y tyrbin yn cynhyrchu tua £40,000 y flwyddyn o incwm. Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n buddsoddi'r incwm net mewn prosiectau cynaliadwyedd.

Mae'r ddwy gymuned yn gobeithio dilyn esiampl Ynni Anafon yn Abergwyngregyn wedi iddyn nhw gychwyn cynllun dŵr yn 2014.

Maen nhw'n dweud bod Ynni Anafon yn allforio cymaint ag 900Mwh o drydan i'r grid bob blwyddyn sydd yn cyflenwi trydan i 250 o gartrefi.