Newid i oedran pensiwn yn cael ei feirniadu
- Cyhoeddwyd

Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi beirniadu'r ffordd mae newidiadau wedi eu gwneud i oedran hawlio pensiwn y wladwriaeth.
Mae miloedd o fenywod sydd wedi ymddeol neu yn cyrraedd oed ymddeol yn honni nad ydyn nhw wedi cael fawr o rybudd bod yr oed y byddan nhw yn derbyn eu pensiwn wedi codi.
Mi ddigwyddodd hyn yn sgil deddfwriaeth yn 1995 a 2011.
Mae'r comisiwn yn cefnogi'r egwyddor fod oedran pensiwn dynion a merched yn gydradd. Ond mae Kate Bennet, y Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Cymru yn dweud nad yw'r neges wedi ei "chyfathrebu yn gywir" i'r rhai sydd yn cael eu heffeithio.
Yn ôl Llywodraeth San Steffan, mae llythyrau wedi eu hanfon at y menywod yn dweud wrthynt am y newidiadau.
Mi oedd y ddeddfwriaeth gafodd ei basio yn 1995 yn gosod amserlen er mwyn cyflwyno'r newidiadau sydd yn golygu y bydd menywod, fel dynion, yn cael pensiwn gan y wladwriaeth pan yn 65 oed erbyn 2020.
Ond yn 2011, mi benderfynodd Llywodraeth San Steffan i gyflwyno'r newid yn 2018.
'Methiant i gyfathrebu'
Erbyn diwedd y ddegawd mi fydd yr oed wedi cynyddu eto i 66 ar gyfer dynion a merched.
Dywedodd Ms Bennett wrth raglen BBC y Sunday Politics Wales:
"Yr hyn sydd wedi bod yn broblem go iawn ydy'r methiant i gyfathrebu yn gywir gyda'r merched i adael iddyn nhw wybod y sefyllfa.
"Dwi'n ymwybodol o'r ffaith bod menywod oedd wedi cynllunio eu hymddeoliad ers amser nawr wedi dod i wybod na fyddan nhw'n cael eu pensiwn yr adeg roedden nhw'n credu ac maen nhw'n gorfod parhau i weithio am gyfnod hirach."
"Mae hyn yn fethiant gan y llywodraeth ac er ein bod ni'n cefnogi'r newid mi ddylai fod wedi cael ei weithredu yn llawer gwell."
Mae Llywodraeth Prydain yn dweud eu bod nhw wedi rhoi gwybod i'r menywod sydd wedi eu heffeithio ac na fyddan nhw yn ail ystyried y newidiadau.
"Mae'r penderfyniad polisi i gynyddu oedran pensiwn merched wedi ei wneud er mwyn cael gwared â'r anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod. Mi fyddai parhau gyda'r anghydraddoldeb yma yn costio biliynau o bunnau."
Sunday Politics Wales , BBC 1 Cymru 11:00 dydd Sul Chwefror 28