Gêm olaf Devils Caerdydd cyn symud i'w cartref newydd
- Cyhoeddwyd

Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd yn chwarae ei gêm olaf yn y 'Babell Fawr Las' ddydd Sadwrn.
Roedd y safle i fod yn un dros dro, ond maen nhw wedi bod yn chwarae gemau yno ers 2006 pan gafodd y ganolfan iâ yng nghanol Caerdydd ei dymchwel.
Fis nesaf, mi fyddan nhw'n symud i Ganolfan Iâ Cymru yn y bae.
Y gobaith oedd y byddai Cardiff Devils yn symud i'r ganolfan ym mis Awst ac mae'r oedi wedi costio £300,000 iddyn nhw.
Mi fydd ryw dair mil o bobl yn medru gweld gemau yn y lleoliad newydd. 2,300 o bobl oedd yn gallu gweld y Devils yn y 'Big Blue Tent'.
Bydd y chwaraewyr yn wynebu Coventry Blaze yn ei gêm olaf ac yna Belfast Giants yn y gêm gyntaf yn y ganolfan yn y bae.
Buodd Cymru Fyw yn siarad gyda rheolwr y tîm, Todd Kelman i gael gwybod mwy am y symud.
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2016