Buddugoliaeth haeddiannol i Gymru yn erbyn Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru ar frig tabl y Chwe Gwlad wedi buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Ffrainc - er i'r ymwelwyr bwyso yn yr ail hanner.
Er bod yna lawer o gyffro yn yr hanner cyntaf doedd y pwyntiau ddim yn adlewyrchu hynny. 6-3 oedd y sgor i Gymru ar yr hanner.
Ond mi helpodd cais George North ym munudau cyntaf yr ail hanner i roi bwlch o 13 pwynt rhyngddyn nhw a Ffrainc.
Mi ddaeth gweddill y pwyntiau gan Dan Biggar.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yna wir bosibilrwydd y bydd gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn holl bwysig ac yn penderfynu pwy fydd yn ennill pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Y canlyniad ar y diwedd oedd Cymru 19 - 10 Ffrainc.